Deiseb a gwblhawyd Hygyrchedd wrth Siopa

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

Ymchwilio i’r ddarpariaeth o leoedd parcio oddi ar y ffordd i bobl anabl yn unol â chyfarwyddyd yr Adran Drafnidiaeth.

Creu deddf sy’n nodi isafswm y lleoedd parcio i bobl anabl, a dimensiynau’r lleoedd hynny. Ymchwilio i’r maint lleiaf a bennir ar gyfer lleoedd parcio i bobl anabl ar hyn o bryd, i ganfod a ystyrir faniau a gaiff eu defnyddio i gludo defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Pennu dirwy safonol, uwch am gamddefnyddio lleoedd parcio i bobl anabl, a fyddai’n gymwys ym mhob maes parcio, a sicrhau y caiff ei gorfodi y tro cyntaf y bydd rhywun yn troseddu.

Gorfodi cwmnïau tacsis i gludo’r clampiau a riliau dirwyn cywir i’w defnyddio gyda chadeiriau olwyn â modur.

Ymchwilio a yw’r tai bach a ddarperir i bobl anabl ar hyn o bryd yn ddigon mawr i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn â modur a’u gofalwyr.

Creu cynllun sy’n trefnu bod siopau sydd â rampiau sefydlog neu symudol yn arddangos bathodyn yn eu ffenestri.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

55 llofnod

Dangos ar fap

5,000