Deiseb a gwblhawyd Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i achub ein gwasanaethau iechyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Mae penderfyniad yn cael ei wneud a fydd, os caiff ei roi ar waith, yn arwain at golli rhai agweddau ar ofal pediatrig, obstetreg, newydd-anedig a damweiniau ac achosion brys. Yn syml, os oes angen gofal dwys arnoch, os oes gennych blentyn sâl neu os ydych yn debygol o gael beichiogrwydd a allai fod yn gymhleth, bydd rhaid i chi deithio i Gaerdydd, Merthyr neu Ben-y-bont ar Ogwr. I breswylwyr Rhondda Cynon Taf sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallai hyn olygu teithio am dros ddwy awr i fynd i apwyntiadau hanfodol. Mae preswylwyr Rhondda Cynon Taf sydd wedi llofnodi isod yn cefnogi’n gryf opsiwn 5.2 o dan y cynigion a amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau iechyd, “Gwneud Cystal â Goreuon y Byd — yr Heriau sy’n Wynebu Gwasanaethau Ysbyty yn Ne Cymru”. Rydym hefyd yn cefnogi’r galw i gadw a datblygu cyfleusterau a gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg i sicrhau bod pobl Rhondda Cynon Taf yn gallu derbyn a chael gafael ar y gwasanaethau y maent yn eu haeddu o fewn ffiniau’r sir.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon