Deiseb a gwblhawyd Asbestos mewn Ysgolion
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi mesurau ar waith i sicrhau bod rhieni a gwarcheidwaid plant yng Nghymru yn gallu cael mynediad rhwydd at wybodaeth am bresenoldeb asbestos mewn adeiladau ysgolion a beth a wneir i’w reoli.
O ystyried y risg i iechyd sy’n gysylltiedig â phresenoldeb asbestos mewn adeiladau cyhoeddus, credwn fod gan rieni a gwarcheidwaid yng Nghymru yr hawl i:
• gael gwybod os oes asbestos yn ysgolion eu plant
• cael gwybod, os oes asbestos yn yr ysgol, ei fod yn cael ei reoli yn unol â Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012
• cael mynediad rhwydd at y wybodaeth honno ar-lein
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon