Deiseb a gwblhawyd Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr
Prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig yw safon Aur y 21ain Ganrif. Rhaid i Gymru, fel cenedl, fod ar flaen y gad o ran cynnig y safon hon. Rydym ni, y rhai a lofnodwyd isod, wedi ein brawychu gan y ffaith na chynigir llawdriniaeth robotig i ddynion yng Nghymru sydd â chanser y prostad, er ei bod yn cael ei chynnig i BOB dyn yn Lloegr, gydag o leiaf 40 o leoliadau yn cynnig y driniaeth hon, tra bod yn rhaid i ddynion yng Nghymru dalu miloedd o bunnoedd (rhwng £13-15,000 fel arfer) i gael y driniaeth hon yng nghyfleusterau’r GIG yn Lloegr. Yn amlwg, ni all nifer o ddynion yng Nghymru fforddio hyn. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru ynghyd â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i ddatrys y sefyllfa gwbl annheg hon a’r diffyg difrifol o ran adnoddau hanfodol yn y GIG yng Nghymru yn ddi-oed. Mae’n hanfodol bod y dechnoleg hon, Safon Aur y 21ain Ganrif, yn cael ei chynnig i ddynion yng Nghymru. Nid yw’n iawn bod technoleg o’r fath ar gael mewn mannau eraill a bod yn rhaid i ddynion o Gymru dalu i gael budd ohoni mewn cyfleuster y GIG yn Lloegr.
Rhagor o fanylion
Mae’r ddeiseb hon yn yn bodloni’r maen prawf Diogelwch Cleifion a Gwella Technoleg yn strategaeth Llywodraeth Cymru, Newid er Gwell. Mae nifer o fanteision i gleifion yn sgîl llawdriniaeth o’r math hwn sy’n ymyrryd leiaf o’i chymharu â llawdriniaethau agored, gan gynnwys gwellhad cyflymach, lleihau’r boen yn dilyn y llawdriniaeth, lleihau faint o waed a gollir a gwella’r canlyniad cosmetig drwy ddefnyddio toriadau llai i’r croen. Yn bwysicach, o ran canser y prostad, mae’r llawdriniaeth hon yn cynnig canlyniadau gwell o ran ymataliad troethol, anhawster codiad ac iselder posibl. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar deulu a pherthnasau gwaith, a rhaid ei ystyried wrth gynllunio’r gofal gorau. Ni chaiff y defnydd o dechnoleg laparoscopig gyda chymorth robotig ei gyfyngu i ganserau’r prostad. Mae ganddi’r potensial hefyd i gael effaith sylweddol ar gleifion sydd â chanserau’r colyddun a’r rectwm a chanserau gynaecolegol, yn ogystal â chyflyrau anfalaen. Mae ganddi’r potensial hefyd i gael ei defnyddio mewn arbenigeddau eraill, fel llawdriniaeth gardiaidd a phediatrig.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon