Deiseb a gwblhawyd Pecyn gwybodaeth syml i bawb yng Nghymru yn esbonio sut y gallant sefyll fel ymgeisydd

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i anfon taflen ddealladwy, glir i bawb o oedran pleidleisio yng Nghymru, yn esbonio sut y gallant sefyll mewn etholiadau lleol, cenedlaethol neu Brydeinig os dyna’u dymuniad.

Rhagor o fanylion

Dylid anfon llythyr esboniadol syml at bawb o oedran pleidleisio yng Nghymru a chynnal ymgyrch ar-lein/ar y cyfryngau hefyd cyn cynnal etholiadau lleol neu genedlaethol (tua 3 mis ymlaen llaw er enghraifft). Bydd hyn yn annog pobl Cymru i gymryd rhan fwy amlwg yn y broses o redeg eu gwlad a’u cymunedau’n ddemocrataidd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

11 llofnod

Dangos ar fap

5,000