Deiseb a gwblhawyd Achub llaeth Cymru, a seilwaith a swyddi’r diwydiant

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r gwaith o gynhyrchu llaeth yng Nghymru, y gwaith o’i brosesu a’r seilwaith llaeth yng Nghymru. Ni ddylai ddibynnu ar y cyfleusterau a gaiff eu rheoli’n ganolog yn ehangach yn y DU. Mae’r cyfleusterau hynny gryn bellter oddi wrth lawer o’r ffermydd yng Nghymru, yn arbennig y ffermydd yng ngorllewin y wlad. Nid ydym yn awgrymu y dylai’r Llywodraeth hyrwyddo un busnes neu frand, ond yn hytrach, y dylai hyrwyddo buddsoddiad mewn unrhyw fusnes sy’n prosesu llaeth yng Nghymru, naill ai llaeth ffres i’w yfed, ymenyn neu gaws.

Rhagor o fanylion

Mae’n newyddion da bod llaeth Cymru yn cael ei anfon ledled y DU a thu hwnt, ond mae’n beth chwithig cludo’r llaeth dros y ffin i’w brosesu, dim ond i’w gludo’n ôl i ddefnyddwyr Cymru, ac mae’n golygu bod y canolfannau traddodiadol ar gyfer cynhyrchu llaeth yng Nghymru yn colli’r gallu i brosesu eu llaeth eu hunain, a’i gludo’n uniongyrchol i siopau a defnyddwyr Cymru. Bu Gorllewin Cymru, er enghraifft, yn ffynhonnell gyfoethog o laeth o safon uchel erioed, ond cludir dros 90 y cant o’r llaeth allan o’r rhanbarth bellach, a rhaid i siopau yn ardal Gorllewin Cymru, hyd yn oed, gymryd llaeth sydd wedi’i brosesu gannoedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae Achub Llaeth Cymru yn awyddus i sicrhau y caiff llaeth ei brosesu’n lleol, a’i fod yn teithio llai o filltiroedd, ac y caiff llai o garbron ei gynhyrchu a bod llaeth mwy ffres yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid. Llofnodwch ein deiseb os gwelwch yn dda.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

426 llofnod

Dangos ar fap

5,000