Deiseb a gwblhawyd Gwahardd codi baner y Deyrnas Unedig ar adeiladau swyddogol yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd codi baner y Deyrnas Unedig y tu allan i adeiladau swyddogol Llywodraeth Cymru. Mae’r arddangosfa gywilyddus hon o ansicrwydd ac ufudd-dod ar ran Llywodraeth Cymru a’n swyddogion cyngor lleol yn arfer trefedigaethol ffiaidd ddylai fod wedi marw’r un pryd â’r ’Ymerodraeth Brydeinig’ lawer o flynyddoedd yn ôl.

Rhagor o fanylion

Ni ddylai Cymru fodern, fywiog a hyderus roi cartref i faner undeb amherthnasol nad sydd wedi cynrychioli ein cenedl erioed oherwydd ar adeg ei llunio nid oedd Lloegr yn cydnabod Cymru fel cenedl.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

200 llofnod

Dangos ar fap

5,000