Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad
Deiseb a gwblhawyd Moratoriwm ar Gynlluniau Datblygu Lleol mewn Rhanbarthau Dinesig posibl
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno moratoriwm ar Gynlluniau Datblygu Lleol yn yr ardaloedd hynny yr argymhellwyd y dylent fod yn rhan o ddau ranbarth dinesig newydd. Mae ’Save our Capital Cardiff’ yn credu y byddai’n annoeth i gynghorau yn yr ardaloedd hynny baratoi cynlluniau arwyddocaol ar gyfer tai a seilwaith, sy’n cynnwys niweidio safleoedd tir glas mewn modd na ellir ei ddadwneud, cyn cael penderfyniad ynghylch gweithredu’n rhanbarthol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon