Deiseb a gwblhawyd Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnig cynllun benthyg blaendal blynyddol i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf / sy’n rhentu tai yng Nghymru.
Y bwriad yw y byddai angen i gwmnïau morgais Cymru gymryd rhan yn y cynllun hwn hefyd, a chytuno i ofyn am ddim mwy na 5% o flaendal ar unrhyw eiddo addas (yn ogystal â chynnig morgeisi llog isel ‘berchen ar yr hyn rydych yn talu amdano’). Byddai hyn, er enghraifft, yn golygu y gellid helpu hyd at 15,000 o bobl yng Nghymru sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf (prynwyr tro cyntaf y mae eu henillion yn is na throthwy penodol ac sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru yn barhaus am o leiaf 10 mlynedd, neu sydd â chysylltiadau busnes llawn-amser â Chymru) gyda benthyciad blaendal o tua £7,500 yr un ar gyfer tŷ pris cyfartalog, gyda’r broses o dalu’r benthyciad yn ôl yn cael ei gohirio am o leiaf blwyddyn. Unwaith y bydd gwerthwyr a phrynwyr yn cytuno ar y cynllun, byddai’r eiddo dan sylw yn cadw ei gymal meddiannaeth cymwys, fel sy’n digwydd yn achos cynlluniau tebyg ym mharciau cenedlaethol y Peak District a North York Moors.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon