Deiseb a gwblhawyd Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau:
Y caiff addysg bellach, ynghyd ag asedau sy’n cael arian cyhoeddus, eu cadw o fewn y sector cyhoeddus.
Y bydd colegau’n parhau i ymrwymo i gytundebau cenedlaethol o ran Addysg Bellach, fel y graddfeydd cyflog cenedlaethol.
Y caiff contract Cymru gyfan ei gyflwyno ar gyfer darlithwyr ym maes Addysg Bellach
Na fydd Gweinidogion Cymru yn diddymu colegau na rhoi’r gallu i golegau drosglwyddo eiddo, hawliau a chyfrifoldebau i gorff arall.
Rhagor o fanylion
- Roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 yn datgan bod colegau addysg bellach yn asedau cyhoeddus sy’n perthyn i’w cymunedau lleol a’u cymuned o staff a dysgwyr. Un ymrwymiad yn y maniffesto oedd sicrhau bod bri cyfartal i athrawon a darlithwyr, drwy gadw’r cysylltiad presennol rhwng cyflogau ac amodau gwaith athrawon a darlithwyr, yn ogystal â chyflwyno contract Cymru gyfan ar gyfer darlithwyr ym maes addysg bellach.2. Fodd bynnag ym mis Gorffennaf 2012, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar ei fil arfaethedig ar Addysg Bellach yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno newidiadau, drwy ddeddfwriaeth, a fydd yn tynnu nifer o gyfyngiadau a rheolaeth dros golegau, gan roi mwy o ymreolaeth i Benaethiaid colegau.3. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gosod dyletswydd ar golegau i gynnal cyflog cyfartal i ddarlithwyr ym maes addysg bellach ac athrawon ysgol, drwy’r llythyr amodau ariannu blynyddol y bydd yn ei anfon i golegau addysg bellach yng Nghymru. Roedd llawer o benaethiaid colegau’n gwrthwynebu cyflwyno graddfa gyflog Cymru gyfan.4. Os na fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i arfer rhywfaint o reolaeth dros y sector addysg bellach, gallai colegau ddiystyru cytundebau cenedlaethol ym maes addysg bellach, a allai gynnwys graddfeydd cyflog cenedlaethol. Pe bai colegau yn diystyru’r graddfeydd cyflog a’r contractau cenedlaethol presennol, gallai graddfeydd cyflog athrawon amrywio’n sylweddol o goleg i goleg. Felly, gallai hynny effeithio ar ansawdd yr addysgu, gan na fyddai athrawon yn awyddus i weithio yn y colegau hynny sy’n cynnig graddfeydd cyflog is.5. Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru’n nodi y disodlir pŵer Gweinidogion Cymru i ddiddymu colegau gan allu coleg i’w ddiddymu ei hun a throsglwyddo’r eiddo, yr hawliau a’r cyfrifoldebau i gorff arall. Pe bai modd i golegau drosglwyddo eu heidio, eu hawliau a’u cyfrifoldebau (fel y nodir yng nghynigion Llywodraeth Cymru), yna byddai modd i golegau eu diddymu eu hunain a throsglwyddo’r asedau i gwmni preifat cyfyngedig drwy warant.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon