Deiseb a gwblhawyd Moddion nid Maes Awyr

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried y ganlyn. Mae’r gweithdrefnau sydd ar waith ar hyn o bryd i benderfynu ar gyflenwi moddion arbenigol i gleifion ar sail achos drwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ddiffygiol ar lefel sylfaenol, yn niweidiol ac yn peri gofid i gleifion. Mae angen protocolau a gweithdrefnau newydd ar fyrder...

Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu’r weithdrefn o ddyrannu moddion arbenigol i gleifion yn gyfan gwbl. Mae angen sicrhau bod y system yn haws o lawer i’w deall. Rhaid i feddygon gael mwy o lais yn y broses o wneud penderfyniadau gan mai nhw yw’r bobl orau i farnu beth yw anghenion ‘cleifion’. Dylid edrych ar ffyrdd amgen o ariannu moddion, fel trafod â chynhyrchwyr i negodi strwythurau prisio mwy realistig, a’r posibilrwydd o dreialon unigol tymor byr ac am ddim.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

51 llofnod

Dangos ar fap

5,000