Deiseb a gwblhawyd Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy’n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydweithio â Hitachi, sef perchennog newydd safle Wylfa B, er mwyn hyrwyddo’r defnydd o lo glân o Gymru neu o’n cyflenwadau helaeth o dechnolegau/adnoddau hyfyw yn lle adeiladu gorsaf niwclear beryglus.

Mewn adroddiad ar dechnoleg glo glân a ddeilliodd o Gyngres Ynni’r Byd XXI, a gynhaliwyd ym Montreal, Canada, yn 2010, dywedodd cwmni Hitachi ei fod yn datblygu portffolio llawn o dechnolegau glo glân, gyda’r nod o wella effeithlonrwydd ymhellach, lleihau allyriadau CO2 90 y cant, a lleihau allyriadau o lygryddion eraill i lefel sy’n agos at sero. Fel arweinydd byd-eang ym maes technoleg glo glân, pam nad yw Hitachi’n cydweithio â Llywodraeth Cymru i roi’r dechnoleg hon ar waith ar safle Wylfa B, yn hytrach nag adeiladu gorsaf niwclear sy’n hynaflyd ac yn wenwynig, ac sydd hefyd yn debyg i’r gorsafoedd a adeiladwyd yn rhannol gan Hitachi yn Fukushima?

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

104 llofnod

Dangos ar fap

5,000