Deiseb a gwblhawyd Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG

"Rydym yn cydnabod cyfraniad cadarnhaol gwasanaethau caplaniaeth ysbytai o ran darparu gofal ysbrydol o fewn y GIG yng Nghymru ac yn cydnabod y gwaith aruthrol y mae’r gwasanaeth caplaniaeth yn y GIG yn ei ddarparu. Mae’r gwasanaeth hwn yn chwarae rhan bwysig yn lles ysbrydol cleifion a staff y GIG, nid yn unig i’r rheini sydd â chysylltiad crefyddol ond hefyd i eraill nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â grŵp crefyddol.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i barhau â’i ymrwymiad i ariannu gwasanaethau caplaniaeth ysbytai ac i ehangu manteision gwasanaethau caplaniaeth i leoliadau gofal eraill, gan gynnwys lleoliadau gofal sylfaenol a chymdeithasol."

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,077 llofnod

Dangos ar fap

5,000