Deiseb a gwblhawyd Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ail-ystyried ei setliad ariannol ar gyfer Amgueddfa Cymru, er mwyn diogelu gwasanaethau’r Amgueddfa a swyddi, tâl ac amodau ei staff. Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhewi grant Amgueddfa Cymru wedi arwain at gyhoeddi toriadau o hyd at £2.5 miliwn, ynghyd â chynigion ar gyfer ailstrwythuro a fyddai’n golygu bod oddeutu 35 o swyddi’n cael eu colli, effeithiau niweidiol posibl ar gyfer dros 160 o staff ac o bosibl colli lwfansau, a fyddai’n arwain at doriad o 20 y cant yn y cyflog yn eu poced ar gyfer rhai o gyflogeion yr Amgueddfa sy’n ennill y cyflogau isaf. Rydym o’r farn bod y toriadau arfaethedig nid yn unig yn bygwth safonau byw, swyddi a sicrwydd i staff ffyddlon Amgueddfa Cymru, ond hefyd yn bygwth y gwasanaethau unigryw y maent yn eu cynnig i bobl Cymru a’r miliwn a hanner o ymwelwyr sy’n dod bob blwyddyn, gan gynnwys ymweliadau ysgol ac ymweliadau addysg.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,617 llofnod

Dangos ar fap

5,000