Deiseb a gwblhawyd Gweithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i orchymyn bod adolygiad yn cael ei gynnal o weithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan mewn perthynas â’r canlynol :
- Rhyddhau cleifion sy’n agored i niwed yn hwyr yn y nôs, a hynny heb ddefnyddio cludiant a ddarperir gan yr ysbyty
- Y cynllun rhithwir ar gyfer cleifion mewnol
- Gweithdrefn gwynion Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, yn enwedig mewn perthynas ag achosion lle mae claf yn parhau i ddioddef o iechyd gwael neu boen
- Y modd y mae cleifion iechyd meddwl yn cael eu trin mewn ysbytai cyffredinol
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon