Deiseb a gwblhawyd Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar Gam-drin Domestig drwy ei drin fel ffenomenon cyffredin i’r ddau ryw ac yn ffenomenon dynol lle y bydd llawer o ddynion a menywod yn dioddef cymaint â’i gilydd ac yr un mor gyfrifol â’i gilydd amdano.

Rhaid bod yn ymarferol, NID yn wleidyddol

Mae’r cynnig cyfredol yn beio dynion, a dynion yn unig, am bob trais ac yn rhoi blaenoriaeth i ragfarn ar sail rhywedd o flaen gwir anghenion menywod, dynion a phlant a phle nad yw 97 y cant o ddynion yn ffitio’r proffil hwn.

Ni chafwyd anghydweld agored a llafar yn hyn o beth yng Nghymru oherwydd diffyg cyhoeddusrwydd ac ofni ôl-effeithiau.

Mae’r ddeiseb hon yn cynnig dull gweithredu amgen sy’n cydnabod bod dynion a menywod yn gyfrifol am 86 y cant o gam-drin domestig. Mae hefyd yn cynnig mwy o amddiffyniad i blant ac yn cael gwared ar y gwahaniaethu sy’n digwydd dim ond oherwydd rhagfarn radical ar sail rhyw yn erbyn y bobl hynny sydd mewn perthnasoedd benywaidd o’r un rhyw.

Gweler y WYBODAETH GEFNOGOL isod

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

238 llofnod

Dangos ar fap

5,000