Deiseb a gwblhawyd Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ynghylch y cyflenwad cyfyngedig iawn o feddyginiaethau HIV gwrth-retrofeirysol. Mae newidiadau diweddar a wnaed gan Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn golygu bod yn rhaid i bob claf sy’n cael meddyginiaethau gwrth-retrofeirysol naill ai ddod i fferyllfa’r ysbyty, sydd ag amseroedd agor cyfyngedig, neu ddewis i’r feddyginiaeth gael ei hanfon i’r cartref. Caiff cleifion sefydlog sy’n glynu at y driniaeth apwyntiad bob 4-6 mis gyda’r ymgynghorydd. Er hynny, mae dosbarthiad meddyginiaethau wedi’i gyfyngu i gyflenwad misol yn unig. Nid yw’r Gweinidog Iechyd yn teimlo mai ei gyfrifoldeb ef yw hyn ac nid yw am ymyrryd. Dylai cleifion gael dosbarthiad teg o feddyginiaeth yn unol â chanllawiau cymdeithas HIV y DU.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon