Deiseb a gwblhawyd Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat

Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio i’r problemau a nodwyd yn yr adroddiad diweddar am yr arolwg o dai yn Aberystwyth yn 2012. Cododd yr adroddiad bryderon ynghylch safon wael llety myfyrwyr a’r ffordd wael, sy’n cyfateb i hynny, y caiff myfyrwyr eu trin yn y sector rhentu preifat. At hynny, galwn ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad llawn ac agored ynghylch y mater angof hwn gyda’r cymunedau y mae hyn yn effeithio arnynt, yn ogystal â sicrhau bod deddfwriaeth tai bresennol a mesurau newydd gan yr awdurdodau perthnasol yn cael eu dilyn yn gywir er mwyn cynorthwyo i godi safonau yn y sector rhentu preifat.

Mae tai myfyrwyr wedi bod yn broblem gyson yn Aberystwyth ers blynyddoedd. Cynhaliwyd arolwg ymysg myfyrwyr ynghylch eu profiadau o ran tai ac mae manylion am y problemau maent yn eu hwynebu wedi’u cynnwys mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2012.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

188 llofnod

Dangos ar fap

5,000