Deiseb a gwblhawyd Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid a deddfu bod holl sefydliadau achub anifeiliaid yn bodloni gofynion gorfodol yn unol â’r adroddiad a luniwyd gan Weithgor Sefydliadau Lles Anifeiliaid Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru ym mis Hydref 2012. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi deddfwriaeth ar waith yng Nghymru o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid (2006), i ddiogelu anifeiliaid rhag esgeulustod a cham-drin.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae mwy a mwy o anifeiliaid yn dioddef cam-drin, esgeulustod ac yn cael eu bridio mewn sefydliadau heb eu rheoleiddio sy’n hysbysebu ei hunain yn Ganolfannau Achub, ac rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i ddeddfu o dan Ddeddf Anifeiliaid 2006 i geisio rhoi’r gorau i hyn.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon