Deiseb a gwblhawyd Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol gynradd yng Nghymru yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydym ni a Chynulliad Cymru yn wirioneddol ymrwymedig i adfer yr iaith Gymraeg a chreu Cymru ddwyieithog, mae angen gweithredu. Rwy’n cytuno nad oes modd gwneud hynny dros nos; mae materion fel niferoedd athrawon a’r mater o’r cyfnod o drosi’r ysgolion o fod yn rhai cyfrwng Saesneg i fod yn rhai cyfrwng Cymraeg. Mae Cynulliad Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd cael cymunedau o siaradwyr Cymraeg. Bydd hynny ond yn digwydd os bydd mwyafrif y plant sy’n gadael ysgol dros sawl cenhedlaeth yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddrafftio cynllun gweithredu cychwynnol ac amserlen o sut y gallai newid o’r fath ddigwydd mewn theori.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

13 llofnod

Dangos ar fap

5,000