Deiseb a gwblhawyd Rheolaeth Gynllunio a’r Gymraeg

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, tra bydd yn ystyried y Bil Diwygio Cynllunio, i gynnwys darpariaeth i wneud y defnydd o arwyddion dwyieithog yn ofyniad cyfreithiol mewn amodau cynllunio ar gyfer pob adeilad newydd yng Nghymru y bydd y cyhoedd yn cael mynediad iddo, drwy dalu neu beidio.

Gwybodaeth ychwanegol : Dros hanner can mlynedd ar ôl i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddechrau ar ei hymgyrch dros ddwyieithrwydd yng Nghymru, mae’r sector preifat yn parhau i fethu â chydymffurfio o bell ffordd. Mae angen deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod y sector yn cydymffurfio â Pharagraff 13 o Nodyn Cyngor Technegol 20. Ni ddylai ymgyrchoedd unigol, fel yr ymgyrch Premier Inn, fod yn ofynnol oherwydd mae angen polisi cyffredinol sy’n trin y Gymraeg yn gyfartal yn y sector preifat.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

13 llofnod

Dangos ar fap

5,000