Deiseb a gwblhawyd Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi grym i’r gyfraith gynllunio a ganlyn. Byddai’r cyfreithiau yn gosod amodau ar bob cais ar gyfer tyrbin gwynt nad yw’n rhan o ddatblygiad fferm wynt masnachol. Gofynnwn yr hyn a ganlyn: 1) Nad yw tyrbinau o’r fath yn fwy na 47 metr o hyd, hyd at flaen y llafn. 2) Bod gofyn i 50% o’r preswylwyr dros 16 oed sy’n byw o fewn 3km i’r safle arfaethedig ddarparu llofnod i ddangos eu bod yn cymeradwyo’r cynllun. 3) Bod pob tyrbin nad yw’n rhan o ddatblygiadau ffermydd gwynt wedi’i gyfyngu i gyfnod gweithredol o rhwng 06.00 a 21.00 er mwyn gwarchod adar a mamaliaid sy’n effro yn ystod y nos. 4) Y caiff tystiolaeth ysgrifenedig ei chynnig a’i darparu i bob preswylfa o fewn 4km i safle arfaethedig, ac y cynigir cyfle iddynt gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus, er mwyn cydymffurfio â chonfensiwn Aarhus. 5) Y dylai pob tyrbin gael ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau y gellir eu hailgylchu 100% a bod yr holl sylfeini’n cael eu codi ar ddiwedd y gweithrediadau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

52 llofnod

Dangos ar fap

5,000