Deiseb a gwblhawyd Diogelu’r henoed a phobl sy’n agored i niwed mewn cartrefi gofal

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus i’r digwyddiadau a arweiniodd at Ymgyrch Jasmine, a ymchwiliodd i honiadau o esgeulustod mewn cartrefi nyrsio yng Nghymru.

Gwybodaeth ychwanegol: Gan i Ymgyrch Jasmine fethu, wedi i’r heddlu ymchwilio i dros 100 o achosion o esgeulustod honedig a gwario dros £13 miliwn, ni chafwyd cyfiawnder i’r rhai a gafodd eu hesgeuluso ac nid yw’r rhai a oedd yn gyfrifol am yr esgeulustod wedi’u dwyn i gyfrif. Rydym yn galw am Ymchwiliad Cyhoeddus i sicrhau bod yr holl agweddau ar y rhesymau dros yr esgeulustod yn cael eu harchwilio’n llawn a bod deddfwriaeth newydd yn cael ei phasio i wneud yn siŵr bod pobl mewn cartrefi nyrsio’n cael gofal gwell ac, os nad yw hynny’n digwydd, eu bod yn gallu troi at yr asiantaethau priodol a’r system gyfreithiol i unioni camweddau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

123 llofnod

Dangos ar fap

5,000