Deiseb a gwblhawyd Rhoi terfyn ar y "Cynigion i gwtogi staff" ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn dymuno nodi ein gofid a’n hanfodlonrwydd ynghylch cyhoeddi rhybudd diswyddiad Adran 188 a wnaed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a’r cynigion i gwtogi staff a ddaeth yn ei sgîl.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

• wrthwynebu a rhoi terfyn ar y toriadau didostur hyn;

• sicrhau bod diogelwch cleifion ac ansawdd y gwasanaeth yn gwella, ac nid yn cael ei gwtogi ymhellach; ac i

• gefnogi ac ymgyrchu dros arian priodol ar gyfer y GIG

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

112 llofnod

Dangos ar fap

5,000