Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.

Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad

Deiseb a gwblhawyd Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun ciniawau poeth am ddim i bob plentyn mewn dosbarthiadau derbyn, blwyddyn1 a blwyddyn 2.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae nifer o astudiaethau wedi dangos fod bod â chwant bwyd yn effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, a bod plant sy’n cael digon o faeth yn gwneud yn well yn yr ysgol. Byddai ymestyn y ddarpariaeth ciniawau ysgol am ddim hefyd yn helpu teuluoedd i dalu eu costau byw, oherwydd amcangyfrifwyd bod cinio ysgol cyffredin ar gyfer pob plentyn yn costio £437 y flwyddyn i rieni. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pob plentyn rhwng pump a saith mlwydd oed yn ysgolion y wladwriaeth yn Lloegr yn cael ciniawau ysgol am ddim. Rydym ni o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud yr un peth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

14 llofnod

Dangos ar fap

5,000