Deiseb a gwblhawyd Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

Un o drigolion ein tref yw Beth Margetson ac mae clefyd ofnadwy wedi bwrw cysgod dros ei bywyd, sef canser. Bydd canser yn effeithio ar un o bob tri ohonom rywbryd yn ein bywydau. Bydd llawer yn goroesi, ond yn achos llawer, fel Beth, bydd y clefyd yn gwaethygu, ac ni fyddant yn gallu cael gafael ar y triniaethau diweddaraf nad ydynt wedi’u cymeradwyo gan NICE, er bod modd i gleifion yn Lloegr a’r Alban gael gafael ar driniaeth drwy gronfa cyffuriau canser. Nid oes cronfa o’r fath ar gael yng Nghymru, ac eto rhoddir dros 74 miliwn o bresgripsiynau am ddim yn y wlad bob blwyddyn, sy’n costio mwy na £550 miliwn i’r GIG yng Nghymru. Felly, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno ffi fechan (e.e. £1.00) am bresgripsiynau er mwyn defnyddio’r arian i sefydlu cronfa cyffuriau canser yng Nghymru fel y gall pobl fel Beth, a channoedd o bobl eraill tebyg, o leiaf gael cyfle i roi cynnig ar rywbeth sydd wedi’i wrthod iddynt ar hyn o bryd, yn wahanol i bobl yn Lloegr a’r Alban.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

247 llofnod

Dangos ar fap

5,000