Deiseb a gwblhawyd Rheoleiddio Safleoedd Carafannau
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio i weld a yw deddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch meysydd carafannau gwyliau a phreswyl yng Nghymru yn ddigonol ac / neu a ydynt wedi’u rheoli’n briodol. Os nad ydynt, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol. Rydym yn pryderu’n arbennig am y peryglon a ganlyn i ddiogelwch:
- Y bwlch rhwng carafannau;
- Storio nwy potel; a
- Gosod carafannau a strwythurau llosgadwy eraill yn y lle gwag tair medr o led o fewn terfynau safleoedd.
Mae’r holl enghreifftiau hyn yn nodi risgiau i ddiogelwch y mae’n ymddangos nad ydynt yn cael eu rheoli’n ddigonol ar hyn o bryd.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon