Deiseb a gwblhawyd Rhwystrwch y cynlluniau anfoesol a llym arfaethedig i’w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn

Yr ydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i’w chynlluniau arfaethedig i’w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn. Nid oes tystiolaeth bod microsglodynnu cŵn yn fwy effeithiol, yn rhatach nac yn garedicach i gŵn. Profodd y dull hwn yn llawer drutach na’r dulliau arferol, fel tatŵs neu dagiau parhaol; mae’n amharu ar gŵn, ac o bosibl yn amharu ar hawliau sylfaenol a moesegol anifeiliaid. Mae tystiolaeth gynyddol hefyd fod y sglodion yn gallu achosi canser mewn anifeiliaid. Coler â thag yw’r dull hawsaf a mwyaf effeithiol o ganfod perchennog ci. Gall unrhyw un a all ddarllen ddefnyddio’r system hon. Yn ôl grwpiau ymgyrchu fel ChipMeNot, byddai microsglodynnu yn cael effaith wirioneddol ar yr amgylchedd o ganlyniad i’r sglodion eu hunain, yr angen am offer darllen, y batris i bob offer darllen, y cyfrifiaduron i weinyddu’r gronfa ddata, ac ati.

Rhagor o fanylion

Mae Deddf Rheoli Cŵn 1992 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog sicrhau bod coler ar ei gi mewn mannau cyhoeddus. Ni fydd microsglodynnu yn gwneud cŵn na phobl yn fwy diogel. Fodd bynnag, mae microsglodynnu yn fusnes mawr, ac mae elw mawr i’w wneud ohono. Mae llawer o’r corfforaethau milfeddygol a’r elusennau anifeiliaid sydd o blaid microsglodynnu cŵn yn debygol o wneud llawer o arian o hynny. Mae gorfodi microsglodynnu cŵn yn bolisi llym, ac nid yw’n adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Mae codi tâl ar berchnogion am y microsglodion a diweddaru’r gronfa ddata, yn ogystal â’r costau staffio ychwanegol i awdurdodau lleol fedru gorfodi polisi o’r fath, yn gwneud y consyrn honedig am wariant dianghenraid mewn cyfnod o gyni ariannol yn gwbl chwerthinllyd. Mae’n werth nodi fod microsglodynnu cŵn yn un o bolisïau San Steffan, ac yn rhan o agenda ehangach yr Undeb Ewropeaidd i ficrosglodynnu a logio popeth byw. Mae hynny’n codi cwestiynau difrifol am egwyddorion, moeseg a moesoldeb, a dylai Cymru achub ar y cyfle hwn i wrthod y polisi llym ac anfoesol hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

11 llofnod

Dangos ar fap

5,000