Deiseb a gwblhawyd Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad llawn ac annibynnol i effeithiau meysydd electromagnetig a gaiff eu creu a’u hallyrru gan dechnolegau diwifr, mastiau ffôn, ffonau symudol a dyfeisiau eraill sy’n allyrru amledd ac offer domestig, ar iechyd a lles cyffredinol pobl a byd natur. Ceir corff sylweddol o dystiolaeth bellach sy’n dangos y gall amlygiad cyson i draffig modern o ran meysydd electromagnetig fod yn niweidiol, gan achosi niwed i DNA a chelloedd y corff, gan effeithio ar allu’r system imiwnedd i weithio, ac achosi risg uwch o ganser a diffyg ffrwythlondeb - ac mae plant yn arbennig o agored i’r effeithiau niweidiol hyn.
Rhagor o fanylion
Mae Cyngor Ewrop, Sefydliad Iechyd y Byd, Cyngres Undebau Llafur y DU, Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop, y Comisiwn Rhyngwladol ar gyfer Diogelwch Electromagnetig a llywodraeth Rwsia, llywodraeth yr Almaen a llywodraeth Israel oll am fynd i’r afael â’r risgiau iechyd hyn ac maent am weld mesurau ymarferol yn cael eu cyflwyno, fel defnyddio rhwydweithiau gwifredig mewn ysgolion yn lle technoleg ddi-wifr. Gallai Llywodraeth Cymru hefyd arwain y ffordd yn hyn o beth a diogelu iechyd dinasyddion Cymru yn y dyfodol drwy wneud ei gwaith ymchwil annibynnol ei hun, yn ogystal ag ymgynghori â sefydliadau annibynnol, fel Powerwatch a WiFiinschools, all gynnig corff sylweddol o waith ymchwil ac sy’n cynghori’n gryf y dylid dilyn egwyddorion rhagofalus.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon