Deiseb a gwblhawyd Chwarae Teg i Fyfyrwyr Cymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r masnacheiddio cynyddol a chyflwyno system agored a thryloyw i graffu ar safon y gwasanaeth a ddarperir i fyfyrwyr a’r gwerth am arian cyhoeddus a gynigir gan y sector Addysg Uwch yng Nghymru, a sicrhau bod newidiadau i lefelau gwasanaeth yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yn cynnwys: 1. Proses i fyfyrwyr Cymru wneud cwynion, gydag iawndal gorfodol a mwy o dryloywder ac atebolrwydd na’r cynllun presennol yn Lloegr. 2. Dylai’r rhan o Sefydliadau Addysg Uwch sy’n ymwneud ag addysgu fod yn rhwym wrth safonau a mesurau diogelu tebyg i’r rhai ar gyfer ysgolion a cholegau. 3. Rheoleiddio statudol, gan nad yw’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd fel elusen gofrestredig heb bwerau i ymyrryd bellach yn addas at y diben. 4. Dylai’r Llythyr Cyd-ddealltwriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddarparu gwerth am arian gynnwys cwynion gan y cyhoedd trwy law Swyddfa Archwilio Cymru. 5. Proses effeithiol i Chwythu’r Chwiban.

Rhagor o fanylion

Gwybodaeth ychwanegol: Gyda dadreoleiddio a chynnydd enfawr yn y ffioedd dysgu, mae gwendidau myfyrwyr a’u hawliau fel defnyddwyr wedi methu â chadw cyfuwch â masnacheiddio Sefydliadau Addysg Uwch fel Cwmnïau Elusennol. Mae benthyciadau i fyfyrwyr ymysg yr ymrwymiadau ariannol mwyaf sy’n wynebu pobl ifanc, a gallent bara am oes, sy’n gwneud myfyrwyr yn agored i niwed. Er bod Sefydliadau Addysg Uwch yn derbyn arian cyhoeddus, nid ydynt yn y sector cyhoeddus; maent yn annibynnol, ac ni ellir cyhuddo staff o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Dylai safonau gyfateb i’r rhai sy’n cael eu rhoi ar waith mewn sefydliadau a gwasanaethau eraill i ddarparu cydbwysedd rhwng annibyniaeth ac atebolrwydd. Dylai Llywodraeth Cymru gynnal y gyfraith ac egluro ei hawl gyfreithiol i godi llais yn erbyn Prifysgolion sy’n methu fel y gellir osgoi ymyrraeth wleidyddol neu gelu camweinyddu; ni ddylai unrhyw sefydliad nad yw’n cydymffurfio â’i erthyglau llywodraethu neu’i Siartr Frenhinol dderbyn arian cyhoeddus na chael masnachu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

18 llofnod

Dangos ar fap

5,000