Deiseb a gwblhawyd Gwnewch ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn Anthem Genedlaethol Swyddogol Cymru
Nodir 150 mlynedd ers cyfansoddi’r gân ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ gan Evan a James James o Bontypridd ym mis Ionawr 2016. Bydd can mlwyddiant canu Hen Wlad Fy Nhadau fel anthem Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon yn cael ei gofio ar 16 Rhagfyr 2015. Am y tro cyntaf erioed ar y diwrnod hwnnw, canodd y chwaraewyr a’r dyrfa anthem cyn i gêm ryngwladol gael ei chwarae. Daeth hwn yn draddodiad pwysig mewn digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol ledled y byd. Dechreuodd y cyfan ym Mharc yr Arfau gynt, oherwydd bod Cymru eisiau lleddfu effaith yr haka enwog a ddefnyddiwyd gan Seland Newydd. Daeth ‘Mae Hen Wlad Fy Nhadau’ yn gri yng nghanol brwydr y maes rygbi ac enillwyd y gêm gennym, o 3 phwynt i 0. Bellach, mae’n bryd gwneud y gri hon yn anthem genedlaethol swyddogol ar gyfer Cymru.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon