Deiseb a gwblhawyd Pwerau Cynllunio
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio i sut y gellid defnyddio pwerau cynllunio datganoledig i wneud defnydd buddiol o safleoedd gwag neu segur.
Rydym yn poeni’n arbennig y gallai safleoedd gwag neu segur fel yr hen Kwik Save yn Llaneirwg, Caerdydd fod yn falltod ar gymunedau a denu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Hoffem i’r ymchwiliad ystyried a yw’r pwerau presennol i gymryd camau yn erbyn perchenogion tir gwag neu segur yn ddigonol, gan gynnwys y potensial i orfodi perchenogion i weithredu ar eu traul eu hunain i gael gwared ar safleoedd hyll neu strwythurau segur.
Rydym yn galw am gynnal ymchwiliad cyn i’r Cynulliad basio’r Bil Cynllunio arfaethedig.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon