Deiseb a gwblhawyd Na i gau Cyffordd 41
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â chau Cyffordd 41 ar yr M4 am y rhesymau a ganlyn: 1. Byddai cau’r gyffordd yn niweidiol i fasnachwyr a busnesau yng nghanol y dref. 2. Byddai cau’r gyffordd yn creu anhrefn ar ffyrdd y dref wrth i’r trigolion geisio cyrraedd y draffordd. 3. Ni chafwyd ymgynghoriad digonol â phobl y dref. 4. Mae angen ymchwilio rhagor i ddulliau eraill o ddatrys y broblem. 5. Ni all yr orsaf drenau newydd fod yn ganolfan drafnidiaeth os nad yw’n hawdd ei chyrraedd. 6. Bydd yn amharu ar y gwaith o ailddatblygu’r dref.
Testun ychwanegol: Unwaith eto, mae anghenion gyrwyr yn bwysicach nag anghenion pobl Port Talbot. Cafodd y dref ei hanrheithio pan adeiladwyd y draffordd yn wreiddiol ac mae disgwyl i ni’n awr ddioddef y llygredd wrth i draffig deithio drwy’r dref ar y ffordd i rywle arall! Y draffordd, nid y gwaith dur, sy’n creu’r llygredd mwyaf yn y dref, ac eto ni fydd y rhai sy’n anadlu’r llygredd yn gallu cyrraedd y draffordd. Bydd y cynlluniau i anfon traffig y dref drwy’r strydoedd yn creu rhagor o lygredd traffig ac yn creu anhrefn. Mae pobl y dref yn deall y problemau’n ymwneud â’r draffordd ond maent yn galw am ymgynghoriad go iawn ynghylch y posibiliadau eraill. Rhowch gyfle i ni ddiogelu’n tref.
Rhagor o fanylion

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon