Deiseb a gwblhawyd Achub Cyfnewidfa Glo Caerdydd
Mae’r ddeiseb hon yn gofyn am ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i’r digwyddiadau o amgylch y Gyfnewidfa Lo ac i gefnogi’r farn gyhoeddus sy’n ceisio diogelu a gwarchod yr adeilad.
Mae’r Gyfnewidfa Lo yn un o adeiladau pwysicaf Caerdydd ac yn un o’r adeiladau mwyaf godidog yng Nghymru. Yn y Gyfnewidfa Lo y cafodd y cytundeb miliwn o bunnoedd cyntaf ei wneud yn ystod oes aur ddiwydiannol y ddinas (mae hyn yn cyfateb i dros £100 miliwn heddiw). Fodd bynnag, yn hytrach na pharchu’r adeilad arbennig hwn, mae Cyngor Caerdydd yn cynnig dymchwel prif gorff yr adeilad, gan gadw dim ond y ffasadau.
Os bydd hyn yn digwydd, yna bydd y tu mewn godidog gyda’i arwyddocâd hanesyddol aruthrol yn cael ei golli am byth. Mae’r adeilad gradd 2* rhestredig hwn yn haeddu gwell, ac mae’n rhaid i farn y cyhoedd gael ei chlywed.
Mae’r Cyngor wedi bod yn dweud ers blwyddyn ei fod ar fin cwympo. Nid oes unrhyw waith wedi cael ei wneud, ond nid oes unrhyw dystiolaeth amlwg bod yr adeilad ar fin cwympo. Mae yna amheuaeth a fyddai Cyngor Caerdydd yn gallu defnyddio pwerau adran 78 o dan y Ddeddf Adeiladu i ddatblygu’i gynlluniau, ac mae angen ymchwilio hyn yn agored.
Mae cymaint o dreftadaeth gymdeithasol ac adeiledig Bae Caerdydd wedi cael ei dinistrio.
Mae’n aneglur pam mae’r cyngor yn gwrthod gweld y gwerth o adfer y Gyfnewidfa Lo i warchod yr adeilad eiconig hwn ar gyfer defnydd a mwynhad cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r materion hyn o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd, ac mae’n hanfodol bod ymgynghoriad cyhoeddus agored yn digwydd i adolygu’r materion.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon