Deiseb a gwblhawyd Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu rhagor o raglenni addysgol (yn benodol mewn Ysgolion Uwchradd) i leddfu camddealltwriaeth llawer o bobl o beth yw hunan-niweidio.
Mae hwn yn fater cynyddol ymysg pobl ifanc yng Nghymru ac, yn ôl arolwg gan y BBC, mae 43% o bobl yn adnabod rhywun sydd wedi hunan-niweidio. Yn yr un arolwg, cofnodwyd bod 41% o bobl yn credu bod hunan-niweidio yn weithred hunanol.
Gwybodaeth ychwanegol: Oherwydd nifer digamsyniol yr achosion o hunan-niweidio ymysg pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru, credaf y dylid hybu ymwybyddiaeth a hygyrchedd am y pwnc. Pam y dylai person ifanc ddioddef yn dawel? Dyna pam yr wyf yn credu y dylem ni, fel gwlad, ddarparu deunyddiau mwy sylweddol i ddioddefwr allu cael cymorth am ddim i frwydro yn erbyn hunan-niweidio.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon