Deiseb a gwblhawyd Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith

Galwn ar y Cynulliad i ofyn i Lywodraeth Cymru:

longyfarch y Mentrau Iaith am eu gwaith arloesol yn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Cymru;

cadarnhau fod y Mentrau yn bartner allweddol i’r Llywodraeth yng nghyswllt gwireddu ei Strategaeth Iaith;

ymateb yn brydlon i arolwg Prifysgol Caerdydd ar waith y Mentrau, gan sicrhau fod y cyllid a roddir iddynt yn adlewyrchu’n deg faint y dasg sy’n eu hwynebu - tra’n derbyn fod angen cynyddu, yn sylweddol iawn, yr arian sydd ar gael iddynt;

derbyn bod angen cysondeb rhwng y Mentrau o ran eu hariannu, a bod angen dod â’r anghysondeb presennol i ben;

ariannu Mentrau Iaith Cymru yn deg, gan sicrhau ei fod yn gallu chwarae rôl gyflawn wrth gydlynu gwaith y Mentrau a chynnig cymorth ac arweiniad iddynt;

sicrhau y bydd y Safonau Iaith yn gorfodi awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwaith y Mentrau, a bod yr awdurdodau yn gweithio’n agos gyda’r Mentrau;

chwarae rôl lawn er mwyn cynnig arweiniad strategol yng nghyswllt cynllunio cymunedol.

Rhagor o fanylion

Cyflwynwn y ddeiseb hon yn sgil ansicrwydd y gefnogaeth a gaiff Mentrau Iaith gan y Llywodraeth ganolog a chan lywodraeth leol. Yn sgil yr Adolygiad, credwn fod angen gweithredu cyflym i sicrhau bod y Mentrau Iaith yn gallu datblygu eu gwaith. Mae’r cyfnod hwn o dorri ariannol yn creu anawsterau i Fentrau Iaith wrth i awdurdodau lleol mewn rhai rhannau o Gymru leihau’r gefnogaeth a roddant i’r Mentrau Iaith. Mewn sawl rhan o Gymru, mae’r Mentrau Iaith yn darparu gwasanaethau Cymraeg nad ydynt ar gael trwy’r awdurdodau lleol. Ein barn ni yw bod angen i awdurdodau lleol ystyried bod Mentrau Iaith yn allweddol i’r modd y maent yn datblygu cymunedau Cymraeg a’r Gymraeg mewn cymunedau. I weithredu’n effeithiol mae angen i Fentrau Iaith gael cefnogaeth ddigonol gan Lywodraeth ganolog, ac mae angen rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i’w cefnogi. Gellir gwneud hyn trwy’r Safonau Iaith. Trwy gael hyn gall y Mentrau Iaith fynd ati’n effeithiol i ddatblygu eu gwaith yn y gymuned.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,346 llofnod

Dangos ar fap

5,000