Deiseb a gwblhawyd Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu Canolfan Etifeddiaeth yng Nghaernarfon. Mae’r dref hon yn haeddu canolfan i ddangos ein hanes, hanes y bobol, y diwydiant, yr iaith a’r celfyddydau mewn adeilad pwrpasol a deniadol o fewn tref Caernarfon a bod yn gartref i’r trysorau sydd wedi eu cymryd o’n Tre.

Mae bron i fil o bobol Caernarfon, yr ardal ac ymwelwyr yn galw am adnodd o’r fath yn un o’r trefi mwy hynafol a phwysig yng Nghymru. Mae ymwelwyr sydd yn dod ar fy nheithiau o amgylch tref Caernarfon—www.drodre.co—yn gofyn, "Where is the Town Museum?" ac mae’n rhaid ateb nad oes dim yn y dref bellach! Ac maent i gyd yn gweld hyn yn anhygoel gan fod hanes o’u cwmpas ym mhob man.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

0 llofnod

Dangos ar fap

5,000