Deiseb a gwblhawyd Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthdroi ei phenderfyniad i beidio â gwahardd saethu rhywogaeth sydd mewn perygl, sef Gŵydd Talcen-wen yr Ynys Las, gan olygu mai Cymru yw’r unig wlad o hyd ar lwybr hedfan y rhywogaeth hon sydd mewn perygl, lle gallant barhau i gael eu saethu a’u lladd yn gyfreithlon. Mae tystiolaeth wyddonol wedi dangos bod y rhywogaeth yn agored iawn i bwysau hela. Yn ei hadroddiad ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfaddef y gallai methu â chymryd camau priodol i leihau marwolaethau cymaint â phosibl nifer y Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las sy’n oedolion, gael ei ystyried fel methu â bodloni rhwymedigaethau cadwraeth. Yn wahanol i’r Alban, Iwerddon, Gwlad yr Iâ a’r Ynys Las nid oes gwaharddiad ar saethu a lladd yr aderyn hwn sydd mewn perygl yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gwaharddiad gwirfoddol ar waith ar ran o aber afon Dyfi yng Nghymru ond mae tystiolaeth bod y gwyddau hefyd yn defnyddio ardaloedd eraill i ffwrdd o’r aber yng nghanolbarth a gogledd Cymru lle nad oes unrhyw gytundebau gwirfoddol ar waith.

Mae poblogaeth y gwyddau hyn, ar y cyfan, yn dirywio ac maent wedi bod yn bryder o ran cadwraeth ers y 1970au hwyr pan arweiniodd dirywiadau sydyn at amddiffyn rhag hela ar eu tiroedd gaeafu. Mae ganddynt amddiffyniad statudol cryf. Fodd bynnag, ers canol y 1990au mae’r boblogaeth wedi dirywio’n sydyn eto. Er bod Cymdeithas Adareg Cymru wedi cydnabod bod gwaharddiadau gwirfoddol hirsefydledig ar saethu ar waith mewn rhai gwlyptiroedd fel aber afon Dyfi, cred na fydd unrhyw beth sy’n llai na gwaharddiad statudol ar saethu yn sicrhau y caiff Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las eu hamddiffyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

3,740 llofnod

Dangos ar fap

5,000