Deiseb a gwblhawyd Hyrwyddo rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru i annog pobl i gymryd rhan.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydweithio ag Undeb Rygbi Cymru i annog mwy o bobl, o bob oedran a rhyw, i gymryd rhan yn y gêm yng Nghymru; i annog partneriaethau â sefydliadau perthnasol eraill i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael cyfle i gymryd rhan ar lawr gwlad ac i ddangos nad yw’r gêm yn un elitaidd ond yn un sy’n agored i bawb.
Gwybodaeth ychwanegol: Nid yw gemau rygbi islaw’r lefel ranbarthol yng Nghymru yn cael fawr ddim sylw yn y cyfryngau. Gwyddom fod clybiau’n ei chael yn anodd sicrhau chwaraewyr ac arian. Bydd rhoi rhagor o sylw i’r gêm ym mhob ardal yn annog mwy o bobl o bob oedran a rhyw i gymryd rhan, boed yn ddarpar chwaraewyr neu’n gefnogwyr. Bydd hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd hysbysebu i noddwyr ac felly’n ei gwneud yn haws i glybiau ddenu’r math hwn o arian.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon