Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau i Awdurdodau Lleol o ran penaethiaid ysgolion yn gallu awdurdodi absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol yn ystod y tymor. Mae llawer o deuluoedd o gefndiroedd tlawd, na allant fforddio mynd ar wyliau yn ystod y tymor, oherwydd bod gwyliau tua 60% yn ddrutach yn ystod y cyfnod gwyliau. Hefyd, mae llawer o deuluoedd lle mae’r rhieni yn gweithio yn methu cymryd amser i ffwrdd yn ystod gwyliau’r ysgol. Gall gwyliau fod yn hynod o addysgiadol, a rhoi ymwybyddiaeth i’r plant o’r byd y maent yn byw ynddo.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,008 llofnod

Dangos ar fap

5,000