Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.

Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad

Deiseb a gwblhawyd Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Ymgynghorydd/Clinig a thîm cymorth meddygol pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn cael eu sefydlu yn ne-ddwyrain Cymru. Gofynnaf i’r ddeiseb hon gael ei thrin fel llais swyddogol dioddefwyr ME, eu teuluoedd, eu gofalwyr a phawb sydd â diddordeb.

Ar hyn o bryd, gydag ychydig eithriadau, nid yw’r proffesiwn meddygol yn rhoi cymorth i ddioddefwyr yr anhwylderau uchod. Nid yw’r bobl hyn yn gallu gweithio, ond ymddengys nad yw’r cyrff sydd yn eu hasesu ar ran y Llywodraeth yn deall eu problemau. Dyna yw sail y ddeiseb hon.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

368 llofnod

Dangos ar fap

5,000