Deiseb a gwblhawyd Pleidleisiau gan Ddinasyddion sy’n Rhwymol yn Ddemocrataidd ar Lefel Llywodraeth Leol
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn galluogi dinasyddion Cymru i alw am bleidleisiau ar faterion ar lefel Llywodraeth Leol, ac i bleidleisiau o’r fath gael yr effaith o naill ai [1] galw penderfyniadau a wnaed gan gynghorau yn ôl i’w hailystyried, neu [2] gwneud pleidleisiau â mwyafrif o fwy na dwy ran o dair yn rhwymol yn ddemocrataidd.
Gwybodaeth ychwanegol: Mae Plebeian Laboratories yn ymwybodol o nifer ddirifedi o benderfyniadau a wneir ar lefel Llywodraeth Leol, sy’n effeithio’n negyddol ar fywydau dinasyddion, ond nad oes ganddynt fawr ddim cyfle i effeithio arnynt yn uniongyrchol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae democratiaeth uniongyrchol wedi dod yn fwyfwy poblogaidd mewn llawer o wledydd ledled y byd fel ffordd o hybu cyfranogiad dinasyddion a hawliau democrataidd. Go brin y byddai Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio i wneud democratiaeth uniongyrchol yn ddeddf ar lefel genedlaethol yng Nghymru, ond byddai rhywfaint o ddemocratiaeth uniongyrchol ar lefel Llywodraeth Leol yn sicr o roi hwb i ddemocratiaeth Cymru.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon