Deiseb a gwblhawyd Newid Mawr ei Angen i’r Rheolau yn ein Hysgolion o ran Llau Pen a Nedd
Mae angen newid y rheolau o ran llau pen mewn ysgolion. Ar hyn o bryd, ni chaniateir i staff yr ysgol nodi pwy yn y dosbarth y mae llau pen arnynt—ni ellir dweud wrth rhiant y plentyn sydd â llau pen, hyd yn oed. Yr unig beth sy’n digwydd yw bod llythyr generig yn cael ei ddosbarthu. Pam na ellir dweud wrth y rhieini bod llau pen ar eu plentyn, a’i fod yn heintio’r dosbarth, a gofyn iddynt ei gasglu? Yna, dylai’r plentyn gael ei gadw i ffwrdd o’r ysgol hyd nes bod aelod o staff yn barnu y gall ddychwelyd, fel sy’n digwydd mewn rhai ysgolion yn yr Unol Daleithiau! Os bydd plentyn yn chwydu yn yr ysgol, bydd yn cael ei anfon adref ar unwaith. Mae llau pen yr un mor heintus ac maent yn achosi’r un faint o ofid i’n plant. Gellir gwneud hyn mewn modd cynnil a synhwyrol – nid oes rhaid i neb wybod, oni bai fod y rhiant yn dewis rhannu’r wybodaeth. Nid yw’n ymyrryd â hawliau dynol neb. Os rhywbeth, byddai’n amddiffyn plant y rhai ohonom sy’n ddiwyd ac yn gofalu amdanynt, ac felly yn gwario llawer o arian yn trin ein plant yn ofer!
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon