Deiseb a gwblhawyd Siarter ar gyfer Plant a Tadau
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu pob un o’r chwe phwynt yn y Siarter Gweithredu dros Blant a Thadau yng Nghymru. 1. Rhaid i bob rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru gofnodi rhyw’r rhieni/gofalwyr y mae’n gweithio gyda hwy. 2. Gosod targedau CAMPUS i gynyddu cyfranogiad tadau a phob rhiant arall nad yw’n byw gyda’i blant yng ngwasanaethau Llywodraeth Cymru. 3. Y Prif Weinidog i wneud datganiad blynyddol ar bwysigrwydd tadau a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i’w helpu yn y 12 mis blaenorol. 4. Annog gwell gofal plant ar y cyd er mwyn caniatáu i fwy o rieni (yn enwedig rhieni sengl) ymgymryd â hyfforddiant neu raglenni cyflogaeth. 5. Cydnabod Dieithrwch Rhieni fel math o gam-drin plant yn emosiynol. 6. Sefydlu gweithgor o dan y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol i Gymru i gydlynu gwell cydweithredu ar gyfer y sefydliadau hynny sydd â marc help a chymorth i deuluoedd sydd wedi gwahanu (HCDG) yng Nghymru, sef marc a ddyfernir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Rhagor o fanylion
Gwybodaeth ychwanegol:
1.Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na ofynnir i wasanaethau cymorth i deuluoedd gofnodi rhyw’r rhieni y maent yn gweithio gyda hwy ar hyn o bryd.
2. Mae ein hymchwil gyda mentrau rhianta yng Nghymru yn dangos mai rhwng 3% ac 11% ar gyfartaledd yw’r lefel ymgysylltu ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth sy’n ddynion.
3.Daw’r cynsail o’r UDA http://www.whitehouse.gov/the-press-office/2013/06/14/weekly-address-celebrating-fathers-day-weekend.
4. Mewn sawl talaith yn yr UDA mae ofynnol i rieni nad ydynt yn byw gyda’u plant a mam-guod a thad-cuod gael y cynnig cyntaf i ofalu am y plant: http://ilfamilylaw.com/new-law-right-first-refusal-child-care/. Yn Illinois mae ’budd pennaf y plentyn’ yn gyfystyr â ’threulio cymaint o amser â phosibl gyda’r ddau riant’. 5. Gwrthododd y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluoedd i Gymru ein cais i gydnabod Dieithrwch Rhieni fel math o gam-drin plant yn emosiynol ym mis Mai 2014.
6.Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau ei chefnogaeth i’r cynnig hwn ac mae Albert Heaney, Cadeirydd y Rhwydwaith Cyfiawnder i Deuluoedd, hefyd wedi nodi ei gefnogaeth.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon