Deiseb a gwblhawyd Holl staff GIG Cymru i gael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf .

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod y gwaith hanfodol a wneir gan staff sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru. Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu’r argymhelliad a wnaed gan gorff adolygu cyflogau’r GIG, a sicrhau bod holl staff GIG Cymru yn cael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf.

Gwybodaeth ychwanegol: Mae staff y GIG yn gwneud rhai o’r swyddi anoddaf yn y byd - arbed bywydau, gofalu am bobl, a’n helpu i gadw’n iach. Mae’n hanfodol bod staff y GIG yn cael eu gwobrwyo’n briodol am y gwaith y maent yn ei wneud gan eu bod yn ddi-os yn ei haeddu. Mae llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â gweithredu’r argymhelliad a wnaed gan y Corff Adolygu Cyflogau (PRB) ac mae UNSAIN yn credu bod hyn yn sarhad i staff yn Lloegr. Rydym yn credu y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn eu gallu i sefyll dros weithwyr y GIG yng Nghymru, ac mae’n rhaid i hynny gynnwys dyfarnu argymhelliad y PRB i staff a sicrhau eu bod yn cael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw fesul awr o leiaf.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

174 llofnod

Dangos ar fap

5,000