Deiseb a gwblhawyd Newidiadau i gyffordd yr A494/A470 yn Nolgellau

Yn ystod y chwe wythnos ers cwblhau’r newidiadau i gyffordd yr A494/ A470 yn Nolgellau, cafwyd tair damwain ffordd ddifrifol, lladdwyd dau, niweidiwyd dau’n ddifrifol a chafodd dau arall fân anafiadau. Mae llawer o bobl leol wedi mynegi pryder ac, o gofio bod gwyliau’r haf ar fin dechrau, ac y bydd traffig yn cynyddu yn y gyffordd hon, mae rhagor o ddigwyddiadau o’r fath yn debygol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried, fel mater o frys, newid y gyffordd hon cyn y caiff pobl eraill eu lladd neu cyn i’w bywydau newid er gwaeth.

Gwybodaeth ychwanegol: Mae’r gyffordd hon wedi peri pryder erioed, ond ers y newidiadau chwe wythnos yn ôl, mae pobl leol wedi bod yn gyndyn o’i defnyddio ac maent yn ceisio’i hosgoi os oes modd. Mae’r marwolaethau a’r anafiadau’n wastraff diangen a gellid achub bywydau pe bai system gliriach ar waith; cylchfan fechan efallai neu arwyddion ychwanegol o leiaf, yn y tymor byr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,288 llofnod

Dangos ar fap

5,000