Deiseb a gwblhawyd Llwybr Foresight

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu iechyd a lles hanfodol pobl Cymru yn y dyfodol drwy sicrhau bod person annibynnol yn uniongyrchol gyfrifol am ddiogelwch bwyd, gan ddarparu trosolwg ar y broses o gynhyrchu bwyd yn y dyfodol. Rhaid i’r person hwn fod yn atebol i Brif Weinidog Cymru. Mae diogelu’r broses o gynhyrchu bwyd o’r pwys mwyaf i bobl Cymru. Mae ynni eisoes yn rhan o gylch gwaith Prif Weinidog Cymru.

Gwybodaeth ychwanegol:

Er ein bod yn cydnabod ei bod yn bwysig diogelu’n hamgylchedd naturiol, rydym yn credu’n daer fod yn rhaid i’r broses o gynhyrchu bwyd gael ei hariannu drwy ddulliau sy’n gwrthsefyll chwyddiant, gan gynnwys pob sector amaethyddol yng Nghymru, ac y dylid cynnwys hyn yng nghylch gwaith Prif Weinidog Cymru. Byddai hyn yn ffordd o fynd i’r afael â’r anniddigrwydd a’r diffyg hyder difrifol yn nyfodol y diwydiant, sydd wedi niweidio amaethyddiaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn argyhoeddedig y gellir sicrhau dyfodol ein cenedl dros y blynyddoedd cythryblus nesaf os bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod darparu cyflenwad bwyd dibynadwy a digonol yn un o’i hamcanion canolog.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2 llofnod

Dangos ar fap

5,000