Deiseb a gwblhawyd Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
- newid y canllawiau fel bod babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos ac sy’n dangos arwyddion o fywyd yn cael y gofal meddygol priodol; ac
- wrth newid y canllawiau hynny yn sicrhau y bydd Pediatregydd yn pwyso a chadw golwg ar bob baban sy’n cael ei eni ar ôl 22 wythnos sy’n dangos arwyddion o fywyd yn union wedi’r enedigaeth er mwyn i glinigwyr wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch cyfle’r baban i oroesi.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon