Deiseb a gwblhawyd Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd

Rydym yn awyddus i wneud hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd yn orfodol ym mhob sefydliad sy’n darparu gwasanaeth cwsmeriaid wyneb yn wyneb, fel bod staff yn gwybod sut i helpu a chefnogi person anabl yn hyderus, yn ddiogel, yn effeithiol ac mewn modd cyfartal. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi y dylai pob sefydliad wneud addasiadau rhesymol ar gyfer person anabl, ond mae llawer o sefydliadau yn ansicr sut i wneud hyn yn gywir ac yn rhesymol. Felly, hoffem weld cymdeithas sy’n fwy cynhwysol a bod cyfraith yn cael ei rhoi ar waith fel bod pobl yn ymwybodol o anabledd, a bod hyn yn gwella ansawdd profiadau cwsmeriaid anabl neu’n gwybod ar hyn o bryd sut i gefnogi pobl anabl.

Dylai’r hyfforddiant neilltuo digon o amser i drafod pob elfen anabledd ar wahân, sef iechyd meddwl, nam ar y golwg, dysgu, clyw ac iechyd corfforol. Rwy’n argymell hyfforddiant hanner diwrnod ar gyfer pob elfen. Dylid adnewyddu’r hyfforddiant hwn bob tair blynedd fel ei fod yn gyfredol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

62 llofnod

Dangos ar fap

5,000