Deiseb a gwblhawyd Dŵr Potel Gwladol
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn ymbil ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i greu Cwmni Dŵr Potel nid-am-elw a berchnogir gan Gymru. Byddai hyn yn cael gwared â'r rhyngfasnachwyr corfforaethol sy'n gwneud elw o'r hyn a ddylai fod am ddim fel genedigaeth-fraint i ddinasyddion Cymru: ein dŵr ein hun.
Rhagor o fanylion
Mae gan Gymru adnoddau naturiol helaeth, yn enwedig dŵr - ac rydym yn galw ar y weinyddiaeth Lafur yn y Cynulliad i wneud rhywbeth sy'n ymdebygu i sosialaeth a chynnig ffynhonnell o ddŵr potel i ddinasyddion Cymru nad yw er elw.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon